STIWDIO RECORDIO CHCC

Cyn bo hir, bydd gan Ganolfan Hysbysrwydd Cerddoriaeth Cymru stiwdio recordio newydd fel rhan o’i chyfleusterau yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Prif ddiben y stiwdio fydd recordio cerddoriaeth Cymru, a bydd recordiadau o’r gerddoriaeth honno wedyn yn cael eu cadw yn yr archif. Caiff y stiwdio recordio ei defnyddio’n fasnachol hefyd, yn ogystal ag ar gyfer cynlluniau a phrosiectau sydd wedi eu creu er mwyn datblygu diddordeb ac addysg mewn perthynas â cherddoriaeth Cymru.

Os hoffech fanylion pellach am y stiwdio recordio, cysylltwch, os gwelwch yn dda â Chanolfan Gwybodaeth Cerddoriaeth Cymru am becyn gwybodaeth.

 
 

recordiadau

Mae gan Ganolfan Hysbysrwydd Cerddoriaeth Cymru archif o sgorau ymchwil gan gyfansoddwyr Cymreig ac rydym bellach wedi dechrau casglu recordiadau o gerddoriaeth Cymru, hefyd ar gyfer dibenion ymchwil. Mae’r cynllun hwn yn ei fabandod ac nid yw’r deunydd sydd gennym ar hyn o bryd yn gyflawn. Os nad ydych yn medru dod o hyd i’r hyn rydych yn chwilio amdano yn y rhestr isod, cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda ac fe wnawn ein gorau i ddod o hyd i label y recordiad, y cwmni a’r manylion cyswllt.
 
CHWILIO ALLWEDDAIR
 

Os ydych chi wedi recordio Cryno Ddisg yn ddiweddar sy’n cynnwys cerddoriaeth Cymru, naill ai’n broffesiynol neu’n amatur, hoffem yn fawr ei gynnwys yn ein casgliad. Cysylltwch â CHCC, os gwelwch yn dda, drwy lenwi’r ffurflen isod a’i hanfon atom drwy’r e-bost, neu rhowch ganiad neu anfon ffacs (manylion cyswllt i’w gweld isod).

Stiwdio Recordio Tŷ Cerdd
Am mwy o wybodaeth, cysylltwch â CHCC
mwy o wybodaeth..
 
 
CYSYLLTU Â NI
Canolfan Hysbysrwydd Cerddoriaeth Cymru
Tŷ Cerdd
Canolfan Mileniwm Cymru
Caerdydd
CF10 5AL
+44 (0) 2920 635640 T
+44 (0) 2920 635641 F
gwybodaeth@wmic.org E
 


amdanom ni | digwyddiadau | beth sy’n newydd |cyfleoedd
catalog |recordiadau | cyfansoddwyr | cysylltu â ni

HAFAN CYFANSODDWYR AMDANOM NI CYSYLLTU A NI BETH SY'N NEWYDD DIGWYDDIADAU RECORDIADAU CATALOG CYFLEOEDD HAFAN