| | | NEWYDDION |  | | Un o amcanion Canolfan Hysbysrwydd Cerddoriaeth Cymru yw cynyddu proffil cerddoriaeth Cymru a cherddoriaeth yng Nghymru. Bydd hysbysebu digwyddiadau sydd yn y newyddion ar y wefan yn un o’r ffyrdd pennaf o sicrhau hyn. Os oes gennych newyddion neu stori a fyddai, yn eich barn chi, o ddiddordeb i Ganolfan Hysbysrwydd Cerddoriaeth Cymru fel y gallwn ei gosod ar y wefan, yna mae pob croeso i chi gysylltu â ni. Byddem hefyd yn falch i glywed am unrhyw ddigwyddiadau sy’n ymwneud â cherddoriaeth Cymru, cyngherddau, gweithdai ac ati er mwyn i ni eu cynnwys ar ein tudalen digwyddiadau. Cysylltwch â’r swyddfa am fwy o fanylion, os gwelwch yn dda
| | | |
|
| | beth sy’n newydd | | Cychwyn ocsiwn gelf | | | Bydd celf a cherddoriaeth yn uno ar Fawrth y 1af, Dydd Gŵyl Ddewi wrth i arlunwyr adnabyddus ddangos eu cefnogaeth i Ŵyl Delynau Rhyngwladol Cymru sy’n cael ei chynnal yng Nghaernarfon rhwng Ebrill 4ydd ac Ebrill 10fed, 2010.
Mae pedwar o arlunwyr cyfoes mwyaf dawnus Cymru wedi rhoi darlun i’w werthu ar safle we ocsiwn eBay o Fawrth 1af ymlaen er mwyn codi arian tuag at yr Ŵyl. Mae Catrin Williams, William Selwyn, Gareth Parry ac Eluned Tudor Grant wedi cyfrannu darluniau arbennig er mwyn dangos eu cefnogaeth i’r Ŵyl ryngwladol arbennig hon.
Mae’r ocsiwn gelf yn un o nifer o brosiectau eleni gan yr Ŵyl sy’n cysylltu celf weledol â cherddoriaeth gyda phrosiectau celf yn cael eu cynnal mewn ysgolion lleol cyn yr Ŵyl ynghŷd ag arddangosfa gelf yn ystod yr Ŵyl rhwng 4ydd a 10fed o Ebrill.
Yn cael ei chynnal am yr ail dro yng Nghaernarfon mae’r Ŵyl yn denu dros 140 o gystadleuwyr o bell ac agos gan gynnwys America, Rwsia, Israel, Siapan a Tsieina, gyda thelynorion yn cystadlu mewn pum cystadleuaeth am wobrau megis Telyn Gyngerdd gwerth £20,000 gan brif noddwyr yr Ŵyl, Camac, Telynau Ffrainc. Eleni fe fydd yr Ŵyl Delynau Rhyngwladol yn cael ei chynnal er cof am y telynor dall, John Parry o Riwabon er mwyn dathlu 300 mlynedd ei enedigaeth.
Wedi ei eni ger Nefyn yng Ngwynedd yn 1710, daeth John Parry’n un o delynorion gorau’r cyfnod Baróc. Fe astudiodd mab John Parry, William Parry (1743-1791) fel arlunydd portread gyda Joshua Reynolds gan ddarlunio llun o’i dad a fydd yn cael ei arddangos yn ystod yr Ŵyl drwy ganiatâd hael ei berchennog, Miles Wynn Cato (www.welshart.co.uk). Y darlun cywrain hwn oedd craidd y syniad o ddatblygu prosiectau sy’n cysylltu cerddoriaeth â chelf yn ystod yr Ŵyl.
Meddai Elinor Bennett, Cyfarwyddwraig yr Ŵyl; “Fe hoffai trefnwyr yr Ŵyl ddiolch yn fawr iawn i William Selwyn, Gareth Parry, Catrin Williams ac Eluned Tudor Grant am eu haelioni drwy gyfrannu darn o’u gwaith ac rwy’n gobeithio y byddwn ni, drwy’r ocsiwn gelf, yn gallu cyrraedd cynulleidfa newydd i’r Ŵyl Delynau. Yn ogystal, rwy’n gobeithio y bydd cerddoriaeth yn fodd i greu marchnad newydd i’r arlunwyr Cymreig arbennig yma.”
Mae’r pedwar llun ar hyn o bryd i’w gweld yn Gallerie Galles, 7 Romilly Crescent yng Nghaerdydd ble y gall darpar brynwyr alw draw i’w gweld cyn iddynt fynd ar werth ar eBay am ddeng niwrnod ar Fawrth y 1af. Mae’r pedwar arlunydd yn adnabyddus am eu gwaith cain ac wedi dewis eu darn i’r ocsiwn yn ofalus.
Ychwanegodd Elinor Bennett; “Mae’r pedwar darlun yn rhai arbennig iawn ac wedi eu hysbrydoli gan wahanol agweddau o dirwedd, hanes a diwylliant Cymreig. Maen dyled ni i’r pedwar arlunydd am eu haelioni yn fawr ac rwy’n gobeithio y bydd yr ocsiwn yn denu’r sylw a’r pris sy’n haeddiannol i bedwar o arlunwyr gorau Cymru. Rwy’n annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn celf neu ddiwylliant i roi cynnig a chefnogi’r dull cyffrous a newydd hwn o godi arian!”
Er mwyn rhoi cynnig ar y darluniau bydd angen i brynwyr roi’r teitl Wales International Harp Festival yn y porwr ar wefan ocsiwn eBay ble y bydd pob darlun ar gael i’w brynu o Fawrth 1af ymlaen. Bydd arian sy’n cael ei godi gan yr ocsiwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer dosbarthiadau meistr a gweithdai gyda thelynorion byd-enwog a fydd yn gweithio gyda chystadleuwyr ifanc yn ystod Gŵyl Delynau Rhyngwladol Cymru 2010 ym mis Ebrill.
| | | | | | | | « NÔL I'R DUDALEN RESTRU LAWN | | |
|
 | CYFANSODDWR Y MIS Hilary Tann |  | Ers cyfnod ei phlentyndod yng nghymoedd glofaol De Cymru, mae Hilary Tann wedi datblygu’r cariad hwnnw at natur sydd wedi bod yn gyfrwng i ysbrydoli ei cherddoriaeth, boed y gerddoriaeth honno wedi’i chyfansoddi i’w pherfformio yn yr Unol Daleithiau (Adirondack Light ar gyfer adroddwr a cherddorfa, a gyfansoddwyd i nodi Canmlwyddiant Parc Talaith Adirondack, 1992) neu ar gyfer ei chartref cyntaf yng Nghymru (yr agorawd ddathliadol, With the heather and small birds, a gomisiynwyd gan Ŵyl Caerdydd, 1994).
Yn sgil ei diddordeb mawr yng ngherddoriaeth Siapan, treuliodd Hilary y cyfnod rhwng 1985 ac 1991 yn astudio’r ffliwt bambŵ fertigol (y shakuhachi). Ymhlith y gweithiau sy’n adlewyrchu’r diddordeb arbennig hwn mae’r gwaith siambr Of erthe and air (1990), a’r gwaith cerddorfaol mawr From afar, a berfformiwyd am y tro cyntaf ym mis Hydref 1996 gan Gerddorfa Symffoni Knoxville, dan arweiniad Kirk Trevor. Perfformiwyd From afar am y tro cyntaf yn Ewrop yn 2000 gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac fe’i dewiswyd ar gyfer cyngerdd agoriadol The International Festival of Women in Music Today yng Nghanolfan Gelfyddydol Seoul, Korea (Cerddorfa Ffilharmonig KBS dan arweiniad Apo Hsu, Ebrill 2003).
Mae Hilary Tann yn byw i’r de o fynyddoedd yr Adirondacks, ym mhen uchaf talaith Efrog Newydd ac mae hi’n Athro ar Adran Gerdd John Howard Payne, Union College, Schenectady. Enillodd radd mewn cyfansoddi o Brifysgol Cymru, Caerdydd ac o Brifysgol Princeton. O 1982 hyd 1995, roedd yn aelod blaenllaw o’r International League of Women Composers a bu’n dal nifer o swyddi ar y Pwyllgor Gwaith. Derbyniodd ei gwaith gefnogaeth gan nifer o sefydliadau, ac yn eu plith Cyngor Celfyddydau Cymru, New York State Council on the Arts, National Endowment for the Arts, a Meet the Composer/Arts Endowment Commissioning Music USA. Mae nifer o’i chyfansoddiadau ar gael oddi wrth Capstone, Zimbel, Elmgrove Productions, a North/South Recordings; cyhoeddir ei sgoriau gan Brichtmark Music, Inc., Rowanberry Music, ac Oxford University Press. Mae recordiadau newydd ar fin cael eu rhyddhau ar labeli Channel Classics, Zimbel, a Deux Elles.
Mae ei chyswllt â Chymru yn parhau drwy nifer o gomisiynau corawl - The Moor ar gyfer Canolfan Astudiaethau Cymreig Madog, Psalm 104 (Praise, my soul) ar gyfer Côr Cymreig Gogledd America, Psalm 86 (Incline Thine Ear) ar gyfer Côr Bach, Abertawe, a Wales, Our Land ar gyfer Rhaglen Dreftadaeth Gymreig Coleg Green Mountain. Mae dylanwad tirwedd Cymru hefyd yn amlwg mewn nifer o’i gweithiau siambr– The Cresset Stone (ffidil unawdol), From the Song of Amergin (ffliwt, fiola, telyn), a The Walls of Morlais Castle (obo, fiola, ’cello). Ym mis Gorffennaf 2001, rhoddwyd perfformiad cyntaf o The Grey Tide and the Green, gan Gerddorfa’r Royal Liverpool Philharmonic dan arweiniad Owain Arwel Hughes, darn a gomisiynwyd ar gyfer Noson Olaf y Proms Cymreig. Comisiynwyd y darn Wellspring (SSA digyfeiliant) gan Eisteddfod Gydwladol Llangollen ar gyfer Cystadleuaeth y Corau Merched 2008.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, cyfansoddodd Hilary nifer o gonsierti dan gomisiwn - consierto i’r ffidil (Here, the Cliffs a berfformiwyd am y tro cyntaf ym mis Hydref 1997 gan Gerddorfa Symffoni Gogledd Carolina gyda Corine Brouwer Cook yn unawdydd ffidil), consierto i sacsoffôn alto (In the First, Spinning Place a berfformiwyd am y tro cyntaf ym mis Mawrth 2000 gan Gerddorfa Symffonig Prifysgol Arizona gyda Debra Richtmeyer yn unawdydd), a choniserto i’r ‘cello (Anecdote, a berfformiwyd am y tro cyntaf ym mis Rhagfyr 2000 gan Gerddorfa Symffoni Newark (DE) gyda’r sielydd o Rwmania, Ovidiu Marinescu). Rhoddir y perfformiad cyntaf o Shakkei, diptych i obo unawdol a cherddorfa siambr, gan yr unawdydd obo Jinny Shaw yng Ngŵyl Llanandras, ym mis Awst 2007. | | mwy o wybodaeth.. |
| | | | |
 |
| CYSYLLTU Â NI |
 |
Canolfan Hysbysrwydd Cerddoriaeth
Cymru
Tŷ Cerdd
Canolfan Mileniwm Cymru
Caerdydd
CF10 5AL |
+44 (0) 2920 635640 T
+44 (0) 2920 635641 F gwybodaeth@wmic.org E |
|
| |
|