NEWYDDION

Un o amcanion Canolfan Hysbysrwydd Cerddoriaeth Cymru yw cynyddu proffil cerddoriaeth Cymru a cherddoriaeth yng Nghymru. Bydd hysbysebu digwyddiadau sydd yn y newyddion ar y wefan yn un o’r ffyrdd pennaf o sicrhau hyn. Os oes gennych newyddion neu stori a fyddai, yn eich barn chi, o ddiddordeb i Ganolfan Hysbysrwydd Cerddoriaeth Cymru fel y gallwn ei gosod ar y wefan, yna mae pob croeso i chi gysylltu â ni.


Byddem hefyd yn falch i glywed am unrhyw ddigwyddiadau sy’n ymwneud â cherddoriaeth Cymru, cyngherddau, gweithdai ac ati er mwyn i ni eu cynnwys ar ein tudalen digwyddiadau.


Cysylltwch â’r swyddfa am fwy o fanylion, os gwelwch yn dda

 
 

beth sy’n newydd

‘Cerddoriaeth i gyfeillion’ mewn Academi arbennig yng Nghymru
Dydd Mawrth 24 Tachwedd 2009

Mae Cerddoriaeth Siambr yng Nghymru yn edrych ymlaen at ddadeni newydd wrth i ddeg cerddor arbennig gael eu dewis i gymryd rhan yn Academi Cerddoriaeth Siambr gyntaf Ensemble Cymru gan gymryd eu cam cyntaf ar daith glasurol iawn.

Mae’r Academi, y cyntaf o’i fath yng Nghymru, sydd wedi ei leoli yng Nghanolfan Ucheldre Caergybi, Ynys Môn, yn rhoi’r cyfle i gerddorion ifanc dan 19 oed dderbyn hyfforddiant o’r radd flaenaf mewn cerddoriaeth siambr. Wedi ei lansio ym mis Tachwedd 2009, bydd yr Academi’n cael ei gynnal am chwe mis gan orffen gyda pherfformiad arbennig gan y cerddorion ar Ebrill 25, 2010 yng Nghanolfan Ucheldre.

Dewiswyd pob cerddor i gymryd rhan yn y fenter ar gryfder eu profiad, brwdfrydedd a safon eu chwarae ac fel rhan o’u profiad dysgu yn yr Academi bydd y deg cerddor yn perfformio ochr yn ochr â rhai o brif gerddorion Ensemble Cymru. Byddent hefyd yn cael eu hyfforddi yn eu hensemble eu hunain ac yn cael y cyfle i fwynhau perfformiadau gan rai o oreuon Ensemble Cymru yn ystod y flwyddyn.

Bydd gweithdai busnes cerddoriaeth hefyd yn cael eu cynnal gan Swyddog Gweithredol Ensemble Cymru gan roi cymorth i’r cerddorion ddatblygu sgiliau hanfodol er mwyn rheoli a hyrwyddo eu hensemble proffesiynol eu hunain.

Mae gan Ensemble Cymru raglen flynyddol o dros 150 o gyngherddau a gweithdai ar gyfer dros 15,000 o bobl o bob oed. Cafodd ei enwi ar restr fer o 3 ensembles yng Ngwobrau Cymdeithas Gerddorol y Ffilharmonig Brenhinol yn 2006. Mae Ensemble Cymru hefyd yn Ensemble preswyl yng Ngŵyl Gerddoriaeth Ryngwladol Gogledd Cymru ym Mhrifysgol Bangor, Ysgol Rydal Penrhos a Gŵyl Fama, Sir y Fflint ac yn weithgar iawn yn hyrwyddo traddodiad cerddoriaeth siambr Gymreig mewn cymunedau ac ysgolion ar draws Cymru ac yn rhyngwladol.

Mae’r Academi yn derbyn cymorth ariannol gan Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth Môn a Chyfeillion Cerddoriaeth Ieuenctid Gwynedd gyda chefnogaeth gan Ganolfan William Mathias, Gwasanaeth Cerdd William Mathias a’r cynrychiolwyr athrawon lleol, Margaret Scourse a Jane Parry.

Meddai Cyfarwyddwr Artistig Ensemble Cymru, Peryn Clement-Evans, “Bwriad Academi Gerddoriaeth Siambr Ensemble Cymru yw i ysbrydoli cerddorion ifanc ac i feithrin eu brwdfrydedd am un o fathau anoddaf ac ysbrydoledig o gerddoriaeth sydd i’w chwarae.

“Yn draddodiadol mae cerddoriaeth siambr ar gyfer rhwng 2 a 30 o gerddorion. Mae’r gair siambr yn awgrymu fod y gerddoriaeth yn cael ei berfformio mewn ystafell fechan, mewn ystafell breifat gydag awyrgylch glos yn aml iawn. Oherwydd ei natur glos, mae cerddoriaeth siambr yn aml iawn yn cael ei alw’n ‘gerddoriaeth i gyfeillion’. Mae’r traddodiad yng Nghymru yn dyddio’n ôl i ddechrau’r 20fed Ganrif wedi ffurfio triawdau’r colegau yn yr 1920 ond sydd bellach wedi diflannu.

“Mae rhai o fawrion mwyaf y byd cyfansoddi, ddoe a heddiw gan gynnwys William Mathias, Alun Hoddinott, Daniel Jones, Grace Williams, Huw Watkins, Gareth Glyn a Guto Puw wedi cyfansoddi ar gyfer y traddodiad hwn, traddodiad sydd o safon byd enwog ac yn un o drysorau mwyaf Cymru ond sydd hefyd wedi ei anwybyddu a`i anghofio i ryw raddau.

“Mae’r deg cerddor ifanc wedi fy syfrdanu gyda’u brwdfrydedd ac rwy’n gobeithio y byddwn ni drwy eu hymroddiad hwy ac ein cefnogaeth ni yn gweld dechrau cyfnod newydd yn hanes cerddoriaeth siambr yng Nghymru.

 
 
GWYBODAETH GYSWLLT
Gwenan Davies, Cambrensis Communications
 
T 01286 685254
E gwenan@cambrensis.uk.com
W www.ensemblecymru.co.uk
 
« NÔL I'R DUDALEN RESTRU LAWN
 
CYFANSODDWR Y MIS
Hilary Tann
Ers cyfnod ei phlentyndod yng nghymoedd glofaol De Cymru, mae Hilary Tann wedi datblygu’r cariad hwnnw at natur sydd wedi bod yn gyfrwng i ysbrydoli ei cherddoriaeth, boed y gerddoriaeth honno wedi’i chyfansoddi i’w pherfformio yn yr Unol Daleithiau (Adirondack Light ar gyfer adroddwr a cherddorfa, a gyfansoddwyd i nodi Canmlwyddiant Parc Talaith Adirondack, 1992) neu ar gyfer ei chartref cyntaf yng Nghymru (yr agorawd ddathliadol, With the heather and small birds, a gomisiynwyd gan Ŵyl Caerdydd, 1994).

Yn sgil ei diddordeb mawr yng ngherddoriaeth Siapan, treuliodd Hilary y cyfnod rhwng 1985 ac 1991 yn astudio’r ffliwt bambŵ fertigol (y shakuhachi). Ymhlith y gweithiau sy’n adlewyrchu’r diddordeb arbennig hwn mae’r gwaith siambr Of erthe and air (1990), a’r gwaith cerddorfaol mawr From afar, a berfformiwyd am y tro cyntaf ym mis Hydref 1996 gan Gerddorfa Symffoni Knoxville, dan arweiniad Kirk Trevor. Perfformiwyd From afar am y tro cyntaf yn Ewrop yn 2000 gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac fe’i dewiswyd ar gyfer cyngerdd agoriadol The International Festival of Women in Music Today yng Nghanolfan Gelfyddydol Seoul, Korea (Cerddorfa Ffilharmonig KBS dan arweiniad Apo Hsu, Ebrill 2003).

Mae Hilary Tann yn byw i’r de o fynyddoedd yr Adirondacks, ym mhen uchaf talaith Efrog Newydd ac mae hi’n Athro ar Adran Gerdd John Howard Payne, Union College, Schenectady. Enillodd radd mewn cyfansoddi o Brifysgol Cymru, Caerdydd ac o Brifysgol Princeton. O 1982 hyd 1995, roedd yn aelod blaenllaw o’r International League of Women Composers a bu’n dal nifer o swyddi ar y Pwyllgor Gwaith. Derbyniodd ei gwaith gefnogaeth gan nifer o sefydliadau, ac yn eu plith Cyngor Celfyddydau Cymru, New York State Council on the Arts, National Endowment for the Arts, a Meet the Composer/Arts Endowment Commissioning Music USA. Mae nifer o’i chyfansoddiadau ar gael oddi wrth Capstone, Zimbel, Elmgrove Productions, a North/South Recordings; cyhoeddir ei sgoriau gan Brichtmark Music, Inc., Rowanberry Music, ac Oxford University Press. Mae recordiadau newydd ar fin cael eu rhyddhau ar labeli Channel Classics, Zimbel, a Deux Elles.

Mae ei chyswllt â Chymru yn parhau drwy nifer o gomisiynau corawl - The Moor ar gyfer Canolfan Astudiaethau Cymreig Madog, Psalm 104 (Praise, my soul) ar gyfer Côr Cymreig Gogledd America, Psalm 86 (Incline Thine Ear) ar gyfer Côr Bach, Abertawe, a Wales, Our Land ar gyfer Rhaglen Dreftadaeth Gymreig Coleg Green Mountain. Mae dylanwad tirwedd Cymru hefyd yn amlwg mewn nifer o’i gweithiau siambr– The Cresset Stone (ffidil unawdol), From the Song of Amergin (ffliwt, fiola, telyn), a The Walls of Morlais Castle (obo, fiola, ’cello). Ym mis Gorffennaf 2001, rhoddwyd perfformiad cyntaf o The Grey Tide and the Green, gan Gerddorfa’r Royal Liverpool Philharmonic dan arweiniad Owain Arwel Hughes, darn a gomisiynwyd ar gyfer Noson Olaf y Proms Cymreig. Comisiynwyd y darn Wellspring (SSA digyfeiliant) gan Eisteddfod Gydwladol Llangollen ar gyfer Cystadleuaeth y Corau Merched 2008.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, cyfansoddodd Hilary nifer o gonsierti dan gomisiwn - consierto i’r ffidil (Here, the Cliffs a berfformiwyd am y tro cyntaf ym mis Hydref 1997 gan Gerddorfa Symffoni Gogledd Carolina gyda Corine Brouwer Cook yn unawdydd ffidil), consierto i sacsoffôn alto (In the First, Spinning Place a berfformiwyd am y tro cyntaf ym mis Mawrth 2000 gan Gerddorfa Symffonig Prifysgol Arizona gyda Debra Richtmeyer yn unawdydd), a choniserto i’r ‘cello (Anecdote, a berfformiwyd am y tro cyntaf ym mis Rhagfyr 2000 gan Gerddorfa Symffoni Newark (DE) gyda’r sielydd o Rwmania, Ovidiu Marinescu). Rhoddir y perfformiad cyntaf o Shakkei, diptych i obo unawdol a cherddorfa siambr, gan yr unawdydd obo Jinny Shaw yng Ngŵyl Llanandras, ym mis Awst 2007.
mwy o wybodaeth..
 
 
CYSYLLTU Â NI
Canolfan Hysbysrwydd Cerddoriaeth Cymru
Tŷ Cerdd
Canolfan Mileniwm Cymru
Caerdydd
CF10 5AL
+44 (0) 2920 635640 T
+44 (0) 2920 635641 F
gwybodaeth@wmic.org E
 


amdanom ni | digwyddiadau | beth sy’n newydd |cyfleoedd
catalog |recordiadau | cyfansoddwyr | cysylltu â ni

HAFAN CYFANSODDWYR AMDANOM NI CYSYLLTU A NI BETH SY'N NEWYDD DIGWYDDIADAU RECORDIADAU CATALOG CYFLEOEDD HAFAN