STAFF CHCC
Cyfarwyddwr
Keith Griffin
Rheolwr
Ruth Leggett
Llyfrgellydd/
Ymchwilydd
Charlie Griffin
 Technegydd Recordio
 James Clarke
 
PWYLLGOR CHCC
Cadeirydd
Avril Harding
 
Elinor Bennett
Mervyn Burtch
Lyn Davies
Einion Dafydd (ACW Advisor)
Gillian Green
John Hardy
Geraint Lewis
Wyn Thomas
 
 

amdanom ni

"Cefnogi, hyrwyddo, a darparu adnodd gwybodaeth
am gerddoriaeth Cymru."

Nod Canolfan Hysbysrwydd Cerddoriaeth Cymru (CHCC) yw cefnogi a hyrwyddo cerddoriaeth Gymreig o bob math. Mae'r Ganolfan yn casglu ac yn cadw sgorau ymchwil cyfansoddwyr Cymreig, recordiadau o gerddoriaeth Cymru a deunydd cyfeirio, ac mae'n darparu gwasanaeth gwybodaeth ar gerddoriaeth Cymru. Mae CHCC yn gweithio gyda sefydliadau eraill er mwyn cynnig cefnogaeth i gyfansoddwyr drwy annog, hyrwyddo a hysbysebu perfformiadau.

Gellir cael mynediad ar lein i archif CHCC drwy'r wefan, ac mae hyn yn rhoi cyfle delfrydol i gyfansoddwyr ddarparu rhestri cyfamserol o'u gweithiau yn ogystal â rhoi i ddefnyddwyr restr gynhwysfawr o'r hyn sydd ar gael yn y Ganolfan. Mae'r wefan hefyd yn hysbysebu digwyddiadau, eitemau newyddion a chyfleoedd, yn gystadlaethau rhyngwladol, perfformiadau neu'n weithdai addysgol.

Mae Canolfan Hysbysrwydd Cerddoriaeth Cymru yn cynnig cefnogaeth bellach drwy annog perfformiadau o gerddoriaeth Cymru yn y wlad hon a thros y môr. Ar y cyd gyda Ffederasiwn Cerddoriaeth Amatur Cymru, mae CHCC yn ceisio hybu comisiynau newydd gan gyfansoddwyr Cymru heddiw, ac mae'n gweithio gyda Chyngor Celfyddydau Cymru er mwyn sicrhau y bydd yr archif yn derbyn copïau ymchwil o weithiau newydd sy'n cael eu comisiynu drwy gynlluniau Cyngor y Celfyddydau.

Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, mae gan CHCC stiwdio recordio sy'n prysur ddatblygu ac sy'n croesawu amrywiaeth gyfoethog o artistiaid, ensemblau ac arddulliau. Mae CHCC hefyd yn cyhoeddi nifer o lyfrynnau addysgol, megis ei chyfres o Restri Repertoire, ac mae'n ymdrechu i annog pobl i werthfawrogi a mwynhau cerddoriaeth Gymreig, yng Nghymru ei hun, yn ogystal ag yn rhyngwladol drwy ei chysylltiadau â chanolfannau hysbysrwydd cerdd eraill ar draws y byd.

Ym mis Tachwedd 2004, symudodd Canolfan Hysbysrwydd Cerddoriaeth Cymru, fel rhan o Ty Cerdd-Music Centre Wales, i Ganolfan Mileniwm Cymru. Mae'r bartneriaeth rhwng Ffederasiwn Cerddoriaeth Cymru, Canolfan Hysbysrwydd Cymru a Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru wedi rhoi bod i ganolfan gerdd un-stop, sy'n "dod â byd o gerddoriaeth i Gymru a cherddoriaeth Cymru i'r byd."

 

RYDYM YN SYMUD

Yn ystod Hydref 2004, bydd CHCC yn dod yn fwy hygyrch fyth i ymwelwyr gan y byddwn yn symud i adeilad newydd Canolfan Mileniwm Cymru fel rhan o Tŷ Cerdd. Daeth Canolfan Hysbysrwydd Cerddoriaeth Cymru yn rhan o Tŷ Cerdd/Canolfan Gerddoriaeth Cymru yn 2000. Mae Tŷ Cerdd, sydd hefyd yn gartref i Ffederasiwn Cerddoriaeth Amatur Cymru, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Chyfansoddwyr Cymru (Composers of Wales), yn ganolfan gerdd un-stop, sy’n “dwyn byd o gerddoriaeth i Gymru a cherddoriaeth Cymru i’r byd.”

Mae Canolfan Hysbysrwydd Cerddoriaeth Cymru bellach wedi cyrraedd cyfnod cyffrous yn ei datblygiad gyda phrosiectau newydd, cartref newydd a chyfleusterau newydd (gan gynnwys llyfrgell mwy o faint, blychau gwrando a stiwdio recordio) ar y gweill. Gyda hyn i gyd yn rhan o’i dyfodol, a chyda chefnogaeth barhaus Cyngor Celfyddydau Cymru, mae Canolfan Hysbysrwydd Cerddoriaeth Cymru yn edrych ymlaen at gael cyfrannu’n fwy helaeth fyth at gerddoriaeth yng Nghymru.

 
CYSYLLTU Â NI
Canolfan Hysbysrwydd Cerddoriaeth Cymru
Tŷ Cerdd
Canolfan Mileniwm Cymru
Caerdydd
CF10 5AL
+44 (0) 2920 635640 T
+44 (0) 2920 635641 F
gwybodaeth@wmic.org E
 


amdanom ni | digwyddiadau | beth sy’n newydd |cyfleoedd
catalog |recordiadau | cyfansoddwyr | cysylltu â ni

HAFAN CYFANSODDWYR AMDANOM NI CYSYLLTU A NI BETH SY'N NEWYDD DIGWYDDIADAU RECORDIADAU CATALOG CYFLEOEDD HAFAN